Beth?
Rydym yn cynnal y treial cyntaf erioed yn y DU ar gyfer rhaglen Grassroots. Nod y rhaglen yw lleihau bwlio a gwrthdaro mewn ysgolion drwy rymuso grŵp o tua 30 o ddisgyblion i gael effaith gadarnhaol ar eu cyfoedion. Mae pob disgybl Blwyddyn 7-10 yn llenwi arolwg sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod grŵp o tua 30 o fyfyrwyr Blwyddyn 7 - 9 a nifer fach o fyfyrwyr Blwyddyn 10 sydd, rhyngddynt, yn gallu cynrychioli corff cyfan y myfyrwyr. Mae’r disgyblion Blwyddyn 7 - 9 hyn yn ffurfio’r ‘grŵp cychwynnol’ ac yn mynychu 10 sesiwn bob pythefnos i greu gweithgareddau pwrpasol i leihau gwrthdaro yn yr ysgol. Bydd y disgyblion Blwyddyn 10 yn gweithredu fel ‘cynghorwyr arbennigol’ i’r grŵp o bryd i’w gilydd.
Yn ystod y sesiynau hyn, bydd hwyluswyr Grassroots yn cefnogi disgyblion i wneud y canlynol:
Nodi meysydd i’w gwella o ran rhyngweithio â myfyrwyr
Creu atebion posibl (e.e. gweithgareddau y gallent eu gwneud)
Darparu cyfleoedd ar gyfer gweithredu
Gwneud mentrau’n weladwy i eraill
Canfu astudiaeth fawr yn yr Unol Daleithiau fod yr ymyriad hwn (sydd bellach wedi cael ei addasu ar gyfer ysgolion y DU) wedi lleihau hyd at 60% ar wrthdaro rhwng myfyrwyr. Roedd y disgyblion yn teimlo eu bod wedi cael eu grymuso gan y sesiynau hyn ac wedi dechrau gweithgareddau fel herio eu hunain i ddangos ymddygiad cymdeithasol, rhannu negeseuon cadarnhaol gan ddefnyddio posteri a chyfryngau cymdeithasol, a rhannu bandiau arddwrn â myfyrwyr a oedd wedi gwneud safiad yn erbyn bwlio.